•   Whitewater Rafting at the National Whitewater Centre
  •   Lake Bala - a great venue for swimming, sailing and canoeing, or just enjoy the views
  •   Experience Bounce Below - a fun family activity
  •   Mountain biking at the famous Coed y Brenin and more
  •   Off roading on dedicated sites
  •   Zip Wires - for an adrenaline rush!
  •   Downhill Biking - for experienced riders!

Bala - the outdoor centre of Snowdonia, Wales

What can be found in the great outdoors


Mae ystod helaeth o weithgareddau awyr agored i’w cael yn ardal y Bala, gyda chyfleusterau sydd yn enwog yn rhyngwladol.  Cynhaliwyd Pencampwriaeth  y Byd am ganŵio dŵr-gwyn yma a mae Triathlonau a chystadlaethaubeicio fel y “Wild Wales Challenge” yn cael eu cynnal yn rheolaidd.  Mae gweithgareddau ar gyfer pawb, beth bynnag eu harbenigrwydd yn blant ac oedolion.   Cynnwys y gweithgareddau sydd ar gael rafftio dŵr-gwyn a chanŵio, hwylio a chanŵio ar lynnoedd,  cerdded mynyddoedd mewn tair cadwyn o fynyddoedd, beicio mynyddmewn canolfannau at y pwrpas a beicio hamddenol ar lwybrau a ffyrdd tawel.  I’r rhai mwyaf mentrus mae’r rhestr bron yn ddibendraw.     

Mae Canolfan Tryweryn (Canolfan Rafftio Dŵr-Gwyn Cenedlaethol) hefyd yn caniatau canŵio dŵr-gwyn; mae’r fangre hon yn ganolfan rhyngwladol lle y trefnwyd Penampwriaeth Canŵio Dŵr Gwyllt y Byd ym 1981 a 1995 a Phencampwriaeth Canŵio Ieuengach Dŵr Gwyllt y Byd yn 2002. Bydd taith rafftio i lawr “y fynwent” a’r “naid ski” yn brofiad bythgofiadwy.  Nepell ar yr afon Ddyfrdwy mae canolfan sefydlog dŵr-gwyn arall Gogledd Cymru yn Llangollen, lle y ceir cyfle i rafftio a chanŵio.

Llyn Tegid yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, gyda’r mynyddoedd yn y cefndir mae’n fan arbennig i hwylio a chanŵio.  Mae cychod hwylio, bordiau hwylio canŵs a kayaks ar gael a mae’n fan perffaith i ddysgu trin canŵ cyn mentro’r dŵr-gwyn.

Yn ardal y Bala mae tair cadwyn o fynyddoedd tawel lle y gallwch ddewis unai cerdded hamddenol ar y llethrau a’r dyffrynoedd sydd yn addas i blant neu teithiau mwy egnïol at yr uchafbwyntiau oddeutu 3000 o droedfeddi.  Mae llawer o lwybrau cyhoeddus y gallwch eu defnyddio a’u cyfuno â thaith ar y tren bach.  Cynigia mynyddoedd Yr Arenig lawer taithgyda golygfeydd ysblenydd ynghanol unigeddau Penllyn.  Mae taith Crib yr Aran yn sefyll allan fel taith ardderchog sy’n cynnwys golygfeydd o Lyn Tegid.  Heblaw teithiau cerdded ardderchog ar Fynyddoedd Y Berwyn gwelir Bistyll Rhaeadr sef y rhaeadr uchaf yng Nghymru.

Mae cyfleon hefyd i feicio yn hamddenol – yn addas i deuluoedd – ar ffyrdd tawel gyda arwyddion llwybrau beicio, traciau oddi amgylch llynoedd neu ar hyd hen lwybr tren gyda golygfeydd o aber y Fawddach.  Os am sialens mae amryw daith fynyddig ar ffyrdd drwy fylchau sydd dros 1000 tr o uchder fel Bwich y Groes y bwlch uchaf yng Nghymru sydd yn adnabyddus yn rhyngwladol.

I’r rhai sydd am feicio mynydd mae llwybrau drwy goedwigoedd ac ar draws gweundir i’w cael a mae canolfanau beicio mynydd gerllaw gyda llwybrau wedi eu marcio, yn cynnwys Coed y Brenin, a choedwigoedd Penmachno a Llandegla.  Yng nghanolfan Coed-y-Brenin sydd yn adnabyddusyn rhyngwladol gall beicwyr herio “Cefn y Ddraig” (30km), “Bwystfil y Brenin” (38km) neu y MBR (18km), yn yr un safle mae cyfleon i deuloedd feicio neu gerdded llwybrau yn y goedwig.

neu ar gyfer y mwyaf mentrus mae nifer o weithgareddau i brysuro curiad y galon fel:

  • Ceisio tramwyo’r dŵr-gwyn mewn rafft 2 berson (Orca) heb dywysydd – padlo eich cwch eich hun yn llythrenol
  • Rhaffau uchelar un o’r cyrsiau hiraf ac uchaf yn y wlad
  • Dringo creigiau ac “abseilio”
  • Scramblo, gweithgaredd sydd rhwng cerdded mynyddoedd a dring creigiau
  • Cerdded ceunant(canyoning), gyda cyfle i ddisgyn i byllau neu lithro i lawr rhaeadrau
  • Ymchwilio mwyn.

Mae canolfanau sydd yn abl i drefnu’r oll o’r gweithgareddau hyn.  Dim ond braslun o weithgareddau awyr agored sydd ar gael yn yr ardal a nodir yma yn y Bala, canolfan geiwgareddau awyr agored Eryri.

Gwybodaeth gan Ray Hind(Tywyswr Mynydd a Hyfforddwr Kayak)